Home Page Skip Navigation
Agatha Christie - Find out more about the life of Agatha Christie

Contact Details

holiday@torbay.gov.uk
Tel: 01803 211 211

Riviera Lloegr

Riviera LloegrBerry Head

Rhywbeth i Bawb!

- O draethau i lan y dŵr bywiog, o barciau gwledig i ogofeydd, mae gan Riviera Lloegr rhywbeth i bawb.

Torquay

Terasau coeth Fictorianaidd yn swatio ymysg y coed. Mae'r harbwr prysur a'r traethau euraidd yn dangos pam ei fod yn llawn haeddu'r enw Riviera.
Yn codi o lan y dŵr gyda'i choed palmwydd, mae'r dref ar saith bryn ac yn gartref i derasau gosgeiddig oes Fictoria a filas gwynion.
Yr harbwr bywiog yw 'sgwâr' tref' Torquay. Mae Blaen y Dŵr yn gyforiog o fwytai, siopau a bariau.
Mae digonedd o wahanol fathau o lety yn Torquay, o lety hunan ddarpar i lety gyda gwasanaeth gan gynnwys yr unig westy pum seren ar benrhyn De Orllewin Lloegr.

Paignton

Cytiau'r traeth a hufen iâ, pedalos a pharasolau. Yn ymestyn dros draean canolog y Bae, mae'r rhan fwyaf o dref Paignton yn gryno a lefel, gyda'r Esplanade, milltiroedd o draethau tywod, y pier a'r harbwr oll o fewn cyrraedd hawdd.
Mae'r rhan fwyaf o fywyd y dref hon yn troi o amgylch glan y dŵr. Gyda'i draethau hir a thywodlyd, awyrgylch lliwgar a phadlo a nofio diogel, mae'n gyrchfan deuluol odidog.
Mae amrywiaeth eang o lety ar gael yn Paignton. Mae tai llety a gwestai ger y traethau ac mae'r ardal yn eithriadol o boblogaidd ar gyfer gwyliau hunan ddarpar. Yno mae rhai o barciau gwyliau gorau'r ardal.

Brixham

Cychod pysgota a phleser yn dawnsio yn erbyn cefndir o fythynnod amryliw sy'n cofleidio'r harbwr.
Yno, ym mhen mwyaf deheuol Tor Bay ac yn swatio ymysg y clogwyni, mae Brixham, un o borthladdoedd harddaf Prydain sy'n dal yn borthladd pysgota hyd heddiw.
Mae bythynnod lliwgar yn gartref i fwytai bwyd môr, caffis, siopau a thafarndai yn tyrru o gwmpas yr harbwr ac yna'n yn troelli'u ffordd trwy'r strydoedd cul a phert.
Mae'r gwestai, tai llety a fflatiau ger yr harbwr neu'r parciau gwyliau helaeth yn gwneud Brixham yn ddewis gwyliau poblogaidd.

Llond Trol o Hwyl

Acha 'r pierArchwilio rhyfeddodau pyllau glan y môr, adeiladu cestyll tywod neu dim ond cael hwyl yn yr haul.
Ar gyfer y dyddiau pan mai diogi ar y traeth yw'r unig ddewis go iawn, eich anhawster mwyaf yw dewis pa draeth i fynd iddo.
Gyda rhai o draethau gorau'r wlad, rydym yn falch o'n baeau cysgodol gyda thraethau thywod gwastad, y cilfachau creigiog cudd a'r pyllau glan y môr sy'n llawn o fywyd môr hudol.

Mae'n eich syfrdanu

I lawer does dim yn ymlacio rhywun yn well nag edrych allan dros olygfa hardd - ac yn yr ardal hon, mae golygfeydd hardd pa ffordd bynnag y byddwch yn troi'ch pen. Neu beth am archwilio'n parciau a'n gerddi niferus a'n coedlannau a bywyd gwyllt.
Mae Riviera Lloegr hefyd yn ganolfan delfrydol ar gyfer archwilio'r ardal, gyda llawer o atyniadau ymwelwyr ffantastig a threfi a dinasoedd hanesyddol led led Dyfnaint a Chernyw ac o fewn pellter teithio hawdd.
Ar ddiwedd y dydd gallwch gael cornel dawel i ymlacio a maldodi'ch hunan gyda the a chacen hufen traddodiadol blasus.

Gadewch i ni eich difyrru

Pa amser bynnag o'r flwyddyn, dyw'r hwyl byth yn gorffen. Pryd bynnag y byddwch yn ymweld â Riviera Lloegr cewch wastad galendr prysur o ddigwyddiadau ffantastig.
Mae ein rhaglen gydol y flwyddyn yn cynnwys rhywbeth i bawb, ddydd a nos, o sioeau, arddangosfeydd tân gwyllt, gwyliau a charnifal i ddigwyddiadau chwaraeon, regatas a rasys cychod cyflym.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf a chyflymaf ynghylch digwyddiadau, cliciwch yma.

Gwthio'r cwch allan

Gyda mwy na 16 milltir sgwâr o ddyfroedd cysgodol, mae Tor Bay'n cynnig yr arena berffaith i wylio neu gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon y dŵr gan gynnwys hwylio, cychod cyflym, sgïo dŵr, syrffio barcud, sgïo jet a phlymio. I hwylwyr brwdfrydig, mae dwy o farinas gyda'r gorau'r byd yn Torquay a Brixham.
Yn ôl ar dir sych, gallwch ganfod canolfannau hamdden, pyllau nofio awyr agored a than do, cyrsiau golff a meysydd bowlio. Neu gallwch fwynhau'r golygfeydd godidog ar lwybrau'r arfordir.

Mae cymaint i'w weld a'i wneud

Yn Torquay...

- Pentref Model Babbacombe
- Stryd Oes Fictoria maint llawn Bygones
- Cockington Court a Pharc Gwledig
- Ceudwll Kents
- Arfordiroedd Byw
- Amgueddfa Torquay
- Canolfan Riviera International
- Theatr Babbacombe
- Y Little Theatre
- Y Princess Theatre

Yn Paignton

- Plasdy OldwayPaignton Zoo
- Rheilffordd Stêm Paignton a Dartmouth
- Sŵ a Pharc Amgylcheddol Paignton
- Parc Dŵr Quaywest
- Canolfan Seashore
- Y Palace Theatr
- Sinema Apollo
- Fferm Occombe

Yn Brixham

- Gwarchodfan Natur Berry Head a Chaerau Napoleonaidd
- Amgueddfa Dreftadaeth Brixham
- Theatr Brixham
- Golden Hind

Am wybodaeth bellach ar atyniadau a gweithgareddau ffoniwch +44 1803 211211.

Gwefannau Defnyddiol
Gwefan awdurdod lleol Torquay, Paignton a Brixham www.torbay.gov.uk
Ymddiriedolaeth Arfordir a Chefn Gwlad Torbay www.countryside-trust.org.uk
Dyfnaint ar lein www.discoverdevon.co.uk
Gwefan swyddogol chwaraeon y dŵr y De Orllewin www.sailsouthwest.co.uk